8 Ionawr 2020

Annwyl gyfaill,

Ymchwiliad i systemau a ffiniau etholiadol: gwahoddiad i ymateb i’r ymgynghoriad

Sefydlwyd y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad ym mis Medi 2019 i ymchwilio i argymhellion y Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad ynglŷn â maint y Cynulliad a sut mae Aelodau'n cael eu hethol. Rydym yn gofyn am dystiolaeth ysgrifenedig i lywio ein hymchwiliad i systemau a ffiniau etholiadol. Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno tystiolaeth yw dydd Mercher 19 Chwefror 2020.

Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad

Argymhellodd y Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad y dylid cynyddu maint y Cynulliad, gan nodi y byddai angen diwygio'r ffordd y mae Aelodau'n cael eu hethol er mwyn cyflawni hyn. Argymhellodd y Panel dair system etholiadol a allai fod yn addas i'w defnyddio yng Nghymru. Y dewis a ffafrir ganddo, os gweithredir y cwota rhywedd integredig ar gyfer ymgeiswyr, yw'r Bleidlais Sengl Drosglwyddadwy (STV). Nodwyd system Cynrychiolaeth Gyfrannol Rhestr Hyblyg yn ddewis amgen addas, a nodwyd y gallai system Cynrychiolaeth Gyfrannol Aelodau Cymysg (MMP) fod yn opsiwn status quo ymarferol.

Gallai diwygio'r system etholiadol arwain at oblygiadau sylweddol i'r ardaloedd y mae Aelodau'r Cynulliad yn eu cynrychioli. Wrth ymchwilio i ffiniau’r Cynulliad, man cychwyn y Panel Arbenigol oedd ffiniau etholiadol a gweinyddol presennol Cymru. Nodwyd tri model posibl ar gyfer ffiniau: y model cyfredol, y gellir ei ddefnyddio ar gyfer system Cynrychiolaeth Gyfrannol Aelodau Cymysg o bosibl; a dau fodel etholaeth aml-aelod y gellir eu defnyddio ar gyfer system STV neu system Cynrychiolaeth Gyfrannol Rhestr Hyblyg.

At hynny, tynnodd y Panel Arbenigol sylw at sefyllfa eithriadol Cymru gan nad oes ganddi fecanwaith ar gyfer adolygu ffiniau'r Cynulliad. Argymhellodd y Panel, ni waeth a weithredir ei gynigion ai peidio, y dylid cymryd camau deddfwriaethol i roi trefniadau adolygu ffiniau ar waith.

Gwahoddiad i gyfrannu i'r ymchwiliad

Gan adeiladu ar waith y Panel Arbenigol, mae'r Pwyllgor yn ymchwilio i oblygiadau posibl newid y system ar gyfer ethol Aelodau a diwygio'r etholaethau a'r rhanbarthau y mae'r Aelodau'n eu cynrychioli. Ein nod yw cydgrynhoi ac ychwanegu at y sylfaen dystiolaeth bresennol, hysbysu’r cyhoedd ac ymgysylltu ag ef, ac amlinellu trywydd ar gyfer diwygio, a hynny er mwyn llywio ystyriaeth y pleidiau gwleidyddol o'u safbwyntiau polisi a'u maniffestos ar gyfer etholiad y Cynulliad yn 2021.

I lywio ein hymchwiliad, byddai'r Pwyllgor yn croesawu tystiolaeth ysgrifenedig gan bobl a sefydliadau sydd â diddordeb yn y materion hyn.

Cylch gorchwyl

Cylch gorchwyl yr ymchwiliad yw archwilio argymhellion y Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad parthed systemau a ffiniau etholiadol, a'r egwyddorion sy'n sail iddynt, a hynny drwy:

§    Archwilio goblygiadau'r systemau etholiadol a'r ffiniau a argymhellwyd gan y Panel Arbenigol ar gyfer cynrychiolaeth ddemocrataidd yng Nghymru, ac ystyried sut y gellid pwysoli’r egwyddorion a nodwyd gan y Panel Arbenigol i sicrhau bod trefniadau etholiadol y Cynulliad yn briodol i gyd-destun Cymru;

§    Archwilio barn a dealltwriaeth y cyhoedd ynghylch trefniadau a ffiniau etholiadol presennol y Cynulliad a'r opsiynau a argymhellir gan y Panel Arbenigol;

§    Ystyried y goblygiadau i bleidiau gwleidyddol yng Nghymru yn sgil newid y system etholiadol a model y ffiniau;

§    Archwilio egwyddorion ac ymarferoldeb sefydlu trefniadau adolygu ffiniau ar gyfer ardaloedd etholiadol y Cynulliad;

§    Ystyried goblygiadau diwygio system etholiadol a ffiniau'r Cynulliad o ran cost ac adnoddau.

Byddai’n ddefnyddiol pe gallech ddefnyddio’r cylch gorchwyl uchod wrth lunio eich ymateb.

Dylai unrhyw dystiolaeth gyrraedd erbyn dydd Mercher 19 Chwefror 2020. Os ydych am gyflwyno tystiolaeth, anfonwch gopi electronig ohoni at: SeneddDiwygio@cynulliad.cymru.

Darparu tystiolaeth ysgrifenedig

Ni ddylai’r dystiolaeth fod yn hwy na phum ochr tudalen A4. Dylid rhifo’r paragraffau, a dylai’r dystiolaeth ganolbwyntio ar y cylch gorchwyl.

Os ydych yn ymateb ar ran sefydliad, dylech roi disgrifiad byr o rôl eich sefydliad.

Gweler y canllawiau i’r rhai sy’n darparu tystiolaeth ar gyfer pwyllgorau.

Polisi dwyieithrwydd

Mae gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.

Yn unol â Chynllun Ieithoedd Swyddogol y Cynulliad, mae'r Pwyllgor yn gofyn i ddogfennau neu ymatebion ysgrifenedig i ymgynghoriadau y bwriedir eu cyhoeddi neu eu defnyddio yn nhrafodion y Cynulliad Cenedlaethol gael eu cyflwyno yn ddwyieithog. Pan na chaiff dogfennau neu ymatebion ysgrifenedig eu cyflwyno yn ddwyieithog, byddwn yn cyhoeddi yn yr iaith a gyflwynwyd, gan ddweud eu bod wedi dod i law yn yr iaith honno’n unig.

Rydym yn disgwyl i sefydliadau eraill weithredu eu safonau neu eu cynlluniau eu hunain a chydymffurfio â'u rhwymedigaeth statudol.

Datgelu gwybodaeth

Mae rhagor o fanylion am sut y byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth yn www.cynulliadcymru.org/cy/help/privacy/help-inquiry-privacy.htm. Dylech sicrhau eich bod wedi ystyried y manylion hyn yn ofalus cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.

Manylion cyswllt

Os hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad

Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Stryd Pierhead

Caerdydd

CF99 1NA

 

E-bost: SeneddDiwygio@cynulliad.cymru

 

Ffôn: 0300 200 6565

Yn gywir,

Dawn Bowden AC
Cadeirydd y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad

 

Croesewir gohebiaeth yn Gymraeg neu yn Saesneg.

We welcome correspondence in Welsh or English.